Os wyt ti’n gadael gofal ac yn 16 neu’n 17 oed (ac wedi bod yn derbyn gofal am o leiaf 13 wythnos ers bod ti’n 14 oed), mae rhaid i’th awdurdod lleol wneud y pethau yma:
- Dod o hyd i rywle addas i ti fyw a thalu am gelfi a ffitiadau
- Rhoi lwfans i ti. Fyddi di ddim yn gallu hawlio budd-daliadau ond os wyt ti’n anabl neu’n unig riant
- Talu am unrhyw gostau ychwanegol sydd yn y Cynllun Llwybr (dyna pam mae mor bwysig cynnwys popeth yn dy gynllun)
- Cadw mewn cysylltiad â thi.
Mae mwy o wybodaeth am beth mae rhaid i’th awdurdod lleol wneud i roi cefnogaeth i ti ar y dudalen yma.