Cynhwysion
- 1 tin o domatos
- 2 beint o ddwr
- 2 llwy de fawr o biwri domato
- 1 winwnsyn
- 1 taten mawr
- 3-4 clof garlleg
- 2 llwy fawr o olew olif
- 2 llwy de o basil
- Halen a phupur
- ½ llwy de o tsili (dewisol)
Dull
- Torrwch y garlleg a’r winwnsyn, a ffriwch tan bod y winwnsyn yn feddal
- Cymerwch y croen o’r taten, a torrwch.
- Ychwanegwch dwr i’r pan, adiwch y daten a berwch
- Ychwanegwch y domato a’r piwri, cymysgwch, a mudferwch y cymysgedd tan bod y taten wedi’i choginio.
- Adiwch y basil.
- Blendiwch y cymysgedd ac adiwch halen a phapur
- Bwytwch gyda bara ffresh, a mwynhewch!