Gweld y testun: Bach Canolig Mawr
Byrgyrs Bîns

Byrgyrs Bîns

Cynhwysion

  • Tin 400g o chickpeas
  • 300g o lysiau wedi’u coginio fel moron, sgwash, tatws, tatws melys neu panasen
  • 1 clofsen garlleg
  • 1 llwy de mawr o olew
  • Sudd lemwn
  • Pinsiad o baprica neu chilli
  • Pupur du
  • 4 llwy de mawr o friwsion bara neu craceri wedi’u gwasgu (opsiynol)

Dull

  1. Gwresogwch y ffwrn i 200C/Ffan 180C/Nwy 6.
  2. Gwasgwch y bîns i fyny gyda stwnsiwr tatws
  3. Ychwanegwch y llysiau a’r garlleg ac unrhyw berlysiau rydych chi eisiau defnyddio#
  4. Cymysgwch yn dda ac adiwch y sudd lemwn a’r pupur
  5. Roliwch y cymysgedd i bedwar siâp byrgyr gyda dwylo gwlyb
  6. Os rydych chi eisiau, gallwch chi orchuddio’r burgyrs gyda’r cracyrs neu’r briwsion i wneud nhw’n greisionllyd
  7. Rhowch lwy de mawr o olew ar hambwrdd pobi a rhowch y byrgyrs ar yr hambwrdd, yn gwneud yn siŵr bod chi’n gorchuddio’r byrgyrs gyda’r olew
  8. Rhowch yr hambwrdd yn y ffwrn a choginiwch am 20-30 munud a throwch y byrgyrs o gwmpas hanner ffordd trwy goginio

Neu gwyliwch y fideo yma: