Gweld y testun: Bach Canolig Mawr
Amdanom ni

Amdanom ni

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn gweithio i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag niwed a bod cynifer o bobl â phosib yn gwybod am hawliau plant. Dyma rai o’r pethau rydyn ni’n gwneud dros blant a phobl ifanc Cymru.

Gallwch ddarllen mwy am yr hawliau sydd gennych fel person ifanc ar ein prif wefan.

Cyngor

Mae gennym wasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth os bydd pobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg.

Angen cymorth? Cysylltwch â ni.